Ar y cŷd a thriniaeth homeopathig, mae Elin hefyd yn cynnig cyngor dietegol ac arferion byw sy’n ymwneud â G.A.P.S. (Gut and Psychology Syndrome & Gut and Physiology Syndrome). Wedi dau ddegawd o brofiad ym maes gofal iechyd, mae hi'n gweld fod mwyafrif y cleifion a'r teuluoedd sy'n dod i'w chlinig, unwaith maen nhw wedi dysgu am iechyd y perfedd, ar eu hennill. Peth pwerus iawn ydi medru bwrw ati i iacháu a chynnal iechyd y perfedd o ddydd i ddydd, a gorau po gyntaf.
Ar gais ei darllenwyr, dyma i chi ddetholiad o erthyglau GAPS Elin - y rhai a ddarllenwyd amlaf ar y wefan dros y blynyddoedd. Mae gweddill yr erthyglau bellach yn rhan o gyrsiau ar-lein a bydd rheiny yn cael eu llwytho yn fuan.




